|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
|
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 5 Chwefror 2013 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Amser: |
09: - 11:00 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Andrew RT Davies (Cadeirydd) |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Tystion: |
|
David Rees, Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Emma Giles, Performance Specialist, Swyddfa Archwilio Cymru Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru Anthony Barrett, Wales Audit Office Partner, Wales Audit Office |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Gwybodaeth am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol a David Rees, Rheolwr Llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru.
Camau i’w cymryd:
Gofynnwyd i Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu:
· Nodyn gyda rhagor o wybodaeth am bresenoldeb aelodau a benodwyd yng nghyfarfodydd y Bwrdd Draenio (gan nodi aelodau awdurdodau lleol a swyddogion).
· Nodyn gyda gwybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Draenio yn y gorffennol.
3. Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru'
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Alan Morris, Cyfarwyddwr y grŵp archwilio perfformiad ac Emma Giles, Arbenigwr perfformiad.
4. Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitemau 6 a 7.
6. Opsiynau ar gyfer ymdrin â Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod opsiynau ar gyfer ymdrin â’r materion sy’n codi o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’.
Cam i’w gymryd:
Gofynodd y Pwyllgor i’r tîm clercio lunio papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad byr i’r materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Archwiliad o Gyfrifon 2010-2011: Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllwg’.
7. Opsiynau ar gyfer ymdrin â'r Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru
7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Adroddiad Dilynol ar Weithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Camau i’w cymryd
Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad.
Penderfynodd y Pwyllgor ofyn am ddiweddariad ysgrifenedig gan Brif Weithredwr Adnoddau Naturiol Cymru ar weithredu argymhelliad a wnaed yn flaenorol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad ynghylch cyfranogiad y gymuned wrth wneud penderfyniadau.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.